Mae bardd o ardal Caernarfon wedi beirniadu rhaglen newyddion i blant ar S4C, ar ôl iddyn nhw ddarlledu eitem yn canolbwyntio ar Loegr yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd neithiwr (nos Fercher, Gorffennaf 11).

Yn ôl Meirion MacIntyre Huws, sydd wedi mynegi ei farn yn ddi-flewyn ar dafod ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd yr eitem ar raglen Ffeil yn “warthus” am fod ynddo gymaint o sylw i Loegr a dim oll am Croatia.

“Dangoswyd lluniau o dîm Lloegr, plant yn cefnogi Lloegr, rheolwr Lloegr a bwrdwn y stori oedd bod Lloegr heb fod mewn gêm derfynol Cwpan y Byd ers 52 o flynyddoedd,” meddai yn ei neges ddig ar Facebook sydd wedi ca degau o ymatebion.

“Nid yw Croatia (ni chafodd y gair Croatia ei grybwyl [sic.] ond unwaith) erioed wedi bod mewn gêm derfynol. Pam y pwyslais ar Loegr yn y stori?”

“Gogwydd tu hwnt o Seisnig”

Mae’r bardd yn mynd yn ei flaen wedyn i gwestiynu golygyddiaeth y rhaglen, gan ddweud ei bod wedi dangos eitem ag iddi “ogwydd tu hwnt o Seisnig”.

“Mae sefyllfa’r Gymraeg yn ddigon truenus fel mae pethau, ac rydym yn dibynnu ar S4C i roi gogwydd Gymreig ar y byd, yn enwedig i’n plant.

“Mae Ffeil yn yr achos yma wedi dewis gogwydd tu hwnt o Seisnig. Hoffwn wybod pam?”

https://m.facebook.com/story.php?story_fbid=1808322902595788&id=100002542874182

Ymateb BBC Cymru

Fe ddarlledodd rhaglen Ffeil y tair brawddeg ganlynol neithiwr:

“Ymhen dwy awr mi fydd Lloegr a Chroatia yn cwrdd yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd – ac mae nifer wedi cyffroi. Y tro dwytha i Loegr ennill gêm yn y rownd yma oedd dros bum deg mlynedd yn ôl. Bydd pwy bynnag sy’n fuddugol heno yn wynebu Ffrainc yn y ffeinal ddydd Sul.”

Meddai llefarydd ar ran BBC Cymru: “Roedd yr eitem fer ar raglen Ffeil yn grynodeb ffeithiol gywir o ddigwyddiad a ddenodd sylw cynulleidfa eang, ac roedd yn cydymffurfio â’n canllawiau golygyddol.”