Map yn dangos Cilybebyll, Castell Nedd a'r M4 (CCA 3.0)
Mae timau achub newydd wedi cyrraedd Glofa Gleision yng Nghwm Tawe mewn ymdrech arall i geisio achub y pedwar glöwr sydd wedi eu dal dan ddaear.

Y gobaith mwya’ yw fod y gweithwyr profiadol wedi llwyddo i gyrraedd poced o awyr yn y pwll drifft sydd wedi llenwi â dŵr wedi i wal chwalu rhyngddo a hen weithfeydd.

Roedd deifwyr wedi llwyddo i fynd tua 30 metr i mewn i’r pwll neithiwr ond roedd gormod o rwbel yn y dŵr a nhwthau’n methu gweld yn ddigon clir.

Mae ymdrechion i fynd i mewn trwy’r shafft aer hefyd wedi methu oherwydd nad oes digon o ocsigen. Y prid nod yn awr yw clirio’r dŵr.

Pocedi awyr

“Maen nhw i lawr prif lwybr i mewn i’r pwll,” meddai Chris Margetts o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. “Mae yna bob math o dwneli bach a hen weithfeydd, gyda’r posibilrwydd fod pocedi aer ym mhob un.

“Maen nhw’n lowyr profiadol; maen nhw’n gwybod am drefn y pwll ac fe fydden nhw’n gwybod lle i fynd mewn amgylchiadau o’r fath.”

Mae negeseuon o gefnogaeth wedi dod gan y ddau brif weinidog, Carwyn Jones a David Cameron, ac mae’r Aelod Seneddol lleol, Peter Hain, yn dweud nad oes dim yn bwysicach ar hyn o bryd nag achub y dynion.

Y pedwar

Mae pob un o’r pedwar yn lowyr profiadol:

Charles Bresnan, 62 oed; David Powell, 50; Garry Jenkins, 39 – i gyd o Gwm Tawe – a Philip Hill, 45, o Gastell Nedd.

Roedd dau ddyn arall wedi llwyddo i ddianc o’r pwll wrth glywed rhuthr y dŵr yn dod i mewn i’r lofa a chafodd un ei dynnu’n rhydd wedyn.

Mae un o’r rheiny’n fab i un o’r pedwar dan ddaear ac mae un hefyd yn ddifrifol wael yn yr ysbyty yn Abertawe.

Mae teuluoedd y pedwar – sydd i gyd yn dod o’r Cwm neu ardal Castell Nedd – yn cael gofal yng nghanolfan Rhos gerllaw Cilybebyll lle mae’r pwll ei hun ac mae pobol leol yn cynnig bwyd a diod iddyn nhw.

Y lofa

Glofa Gleision yw un o’r ychydig byllau bychain sydd ar ôl yn ne Cymru, yn cael ei chynnal gan saith dyn, sy’n gweithio mewn dulliau hen ffasiwn, yn defnyddio ceibiau yn ogystal â ffrwydron i dorri’r glo, yn llwytho’r dramiau â llaw, gyda’r waliau’n cael eu cynnal gan drawstiau pren.

Mae’r shafft yn mynd i mewn ar oledd fechan i mewn i fryn serth uwchben afon Tawe ac mae’r wythïen lo’n denau iawn.

Yn ôl gwefan sy’n cofnodi’r amodau ym mhob pwll yn ne Cymru, mae dŵr yn broblem gyson gyda phwmp pwerus yn tynnu’r dŵr oddi yno.