Derbyn “carthion wedi’u hanfon mewn carden San Ffolant”, “cynigion rhywiol amhriodol gan etholwyr” a “slap ar y pen ôl” gan wleidydd arall – dyna rai o brofiadau gwleidyddion Cymru, yn ôl adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 12).

Mae ymchwil ar y pethau sy’n atal pobol Cymru rhag ymgeisio i ddod yn gynghorydd, yn Aelod Cynulliad neu’n Aelod Seneddol, yn dangos y lefel o aflonyddu y mae gwleidyddion yn ei wynebu.

Mae gwaith Cymdeithas Diwygio Etholiadol [ERS] Cymru wedi canfod mai ofni cael eu cam-drin yw’r rheswm pennaf pam fod pobol yn cael eu rhwystro rhag sefyll mewn etholiadau.

Yn ôl yr adroddiad ar sut y gellid sicrhau mwy o amrywiaeth ym myd gwleidyddiaeth – sy’n cynnwys arolwg a gafodd 266 o ymatebion gwleidyddion – mae 54% o wleidyddion benywaidd wedi cael eu cam-drin neu eu haflonyddu mewn rhyw ffordd.

Ac er mai menywod yw’r rhai mwya’ tebygol o gael eu heffeithio, mae 40% o’r dynion yn lleisio pryderon hefyd.

Mae’r data yn dangos bod 121 o wleidyddion wedi profi rhyw fath o gamdriniaeth, gwahaniaethu neu aflonyddu.

“Enghreifftiau eithafol yn sioc”

“Roedden ni’n disgwyl clywed eitha’ tipyn o achosion cam-drin, roedd e’n sicr yn dod allan pan oedden ni’n siarad gyda gwleidyddion unigol,” meddai Jessica Blair, cyfarwyddwr ERS Cymru.

“Ond roedd clywed pa mor eithafol oedden nhw yn syndod a’r niferoedd hefyd, y ffaith fod 54% o wleidyddion benywaidd yng Nghymru a gymerodd ran yn ein harolwg yn dweud bod nhw wedi profi pethau fel hyn, mae hynny’n sioc.”

Dywed mai rhai o’r enghreifftiau gwaethaf iddi glywed amdanyn nhw wrth gasglu’r dystiolaeth oedd gwleidydd a dderbyniodd lafnau rasel mewn amlen; bygythiadau i deuluoedd gwleidyddion; a hanes gwleidydd benywaidd yn cael ei thynnu dan goeden a’i chusanu gan wleidydd arall.

Angen i bleidiau ddilyn esiampl Llafur

Mae amrywiaeth ar draws tair haen lywodraethol Cymru yn “sobor o wael” yn ôl ERS Cymru, gyda dim ond 27.83% o gynghorwyr, 27.5% o Aelodau Seneddol Cymru a 43% o Aelodau Cynulliad yn fenywod.

Mae angen gwella amrywiaeth o bob math, meddai’r adroddiad, er mwyn adlewyrchu cymdeithas, ac mae’n dweud bod angen i’r pleidiau gwleidyddol gymryd mwy o gyfrifoldeb, yn ogystal â chyflwyno cwotâu.

“Pe bawn i’n gofyn am un peth, byddai hynny i’r pleidiau edrych yn ddifrifol ar yr amrywiaeth o ymgeiswyr sy’n dod trwyddo ac i ganolbwyntio ar weithio gydag etholaethau lleol a’u datblygu,” meddai Jess Blair.

“Gall hyn newid gyda chwotâu, ond os nad yw’r pleidiau yn derbyn hynny ac yn parhau i wneud yr hyn maen nhw wastad wedi gwneud, byddwn ni ddim yn mynd i unlle.

“Edrychwch ar beth mae Llafur Cymru yn gwneud, mae ganddyn nhw raglen fawr le maen nhw’n gweithio gydag undebau yn canfod pobol bosib gallai sefyll, cynnal dosbarthiadau addysg wleidyddol, ac yn edrych ar fenywod yn benodol.

“Dw i ddim yn credu bod gan y pleidiau eraill esgus, maen nhw i gyd yn bobol y dylai mewn theori byw a gweithio yn eu cymunedau lleol a dylen nhw ryw pum mlynedd cyn etholiad fod yn gallu canfod pwy fyddai’n ymgeiswyr da.”