Mae gwasanaethau gofal y tu allan i oriau “o dan straen”, yn ôl adroddiad newydd.

Daw’r adroddiad o law Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac mae’n nodi mai’r prif broblemau sy’n wynebu’r gwasanaeth yw staffio a lefelau morâl isel.

Mae’r rheiny yn eu tro yn effeithio ar y gwasanaeth mewn sawl rhan o Gymru, meddai’r adroddiad ymhellach, gyda’r rheiny’n cynnwys safonau cenedlaethol ar brydlondeb ddim yn cael eu cynnal, ynghyd â diffyg darpariaeth o wybodaeth i gleifion ynghylch sut i gysylltu â’r gwasanaeth.

Mae yna ddiffyg gwybodaeth am ansawdd a pherfformiad gwasanaethau hefyd, ac mae hynny wedyn yn amharu ar drefniadau i’w rheoli’n effeithiol ar raddfa leol a chenedlaethol.

Argymhellion

Er bod llawer o’r heriau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad yn bodoli “ers tro”, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn cyflwyno argymhellion ar sut i fynd ati i’w datrys, sy’n cynnwys:

  • Safoni gwybodaeth i gleifion ar wefannau’r Gwasanaeth Iechyd a llinellau ffōn meddygfeydd;
  • Sicrhau bod gwasanaethau y tu allan i oriau yn fwy deniadol i staff;
  • Datblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer y gweithlu er mwyn datrys problemau staffio;
  • Lledaenu ac annog arferion mwy arloesol.

‘Angen gweithredu’

“Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr angen i gryfhau gwasanaethau y tu allan i oriau ar frys,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan-Thomas.

“Mae angen ymdrin â heriau sy’n bodoli ers tro yn gysylltiedig â’r gweithlu ac mae angen darparu gwybodaeth well i gleifion ynghylch sut i gysylltu â’r gwasanaethau.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru a’r byrddau iechyd gydweithio i weithredu fy argymhellion a datblygu gwelliannau cynaliadwy i’r gwasanaethau hanfodol hyn.”