Dywed timau achub eu bod yn ffyddiog bod pedwar glowr sy’n gaeth mewn pwll glo ym Mhontardawe yn fyw ac iach.

Mae nhw hefyd yn hyderus y gallen nhw achub y pedwar dyn sy’n sownd 90 medr o dan y ddaear ym mhwll Gleision yng Nghilybebyll. Ond er bod yr ymdrechion i’w hachub yn parhau heno, mae’n ymddangos y bydd yn rhaid i’r glowyr dreulio’r nos yn y pwll.

Fe lwyddodd tri o lowyr eraill i ddianc o’r  pwll glo pan ddechreuodd lenwi â dŵr bore ma. Mae’n debyg bod wal wedi dymchwel gan lenwi’r twnel lle roedd y dynion yn gweithio gyda dŵr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 9.20am a chafodd un o’r glowyr ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe mewn hofrennydd. Credir ei fod mewn cyflwr difrifol.

‘Amodau yn ffafriol’

Mae teuluoedd y glowyr yn aros am wybodaeth mewn canolfan gymunedol ym mhentref cyfagos, Rhos.

Dydy’r timau achub ddim wedi llwyddo i siarad a’r glowyr hyd yn hyn ond credir bod yr amodau dan ddaear yn ffafriol. Mae’r pedwar yn lowyr profiadol a’r gred yw eu bod wedi dod o hyd i rywle diogel i aros nes eu bod nhw’n cael eu hachub.

Dywedodd Chris Margetts o dîm achub De Cymru : “Mae nhw’n lowyr profiadol ac fe fyddan nhw yn gwybod lle i fynd mewn sefyllfa fel hyn.”

Ychwanegodd eu bod nhw’n trio pwmpio’r dŵr o’r pwll a fyddai’n caniatau iddyn nhw chwilio yn y twnelau llai am y dynion.  Mae timau arbenigol yn helpu ac mae nhw’n ffyddiog y gallen nhw achub y glowyr. Mae cyn-berchennog y pwll preifat, a agorwyd yn 1993, hefyd yn helpu i roi gwybodaeth i’r timau achub.

‘Dysgu o’r hyn ddigwyddodd’

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron, sydd ar ei ffordd nôl o Libya, y byddai “pob ymdrech” yn cael ei wneud i achub y glowyr ac i helpu’r gwasanaethau brys. Ychwanegodd: “Mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau ein bod ni’n deall beth achosodd y ddamwain ac yn dysgu o’r hyn ddigwyddodd.”

Dywedodd yr Uwcharolygydd Phil Davies y byddai ymchwiliad llawn i’r hyn ddigwyddodd ar y cyd â’r heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Dywedodd Gwenda Thomas, AC Castell-nedd, bod y gymuned glos eisoes wedi dioddef un trasiedi yn dilyn marwolaeth y bachgen pump oed Harry Patterson o bentref Alltwen gerllaw Cilybebyll, ddydd Mawrth.  Dywedodd y byddai’r cymunedau yn “teimlo i’r byw” y drasiedi ddiweddaraf.

Yn  y cyfamser mae teuluoedd y  glowyr yn aros  i gael gwybodaeth  yn y ganolfan gymunedol yn Rhos. Dywedodd Aelod Seneddol Castell-nedd Peter Hain ei fod wedi siarad ag aelodau o’r teuluoedd heno ac wedi cael sicrhad bod popeth yn cael ei wneud i achub y dynion.

“Does dim byd yn bwysicach na bywydau’r dynion yma,” meddai.