Mae ymgynghoriad wedi’i lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw er mwyn casglu barn ynglŷn â dyfodol carbon isel yng Nghymru.

Nod y prosiect, ‘Cyflawni ein Llwybr Carbon Isel at 2030’, yw cyflwyno cyfres o syniadau  i leihau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, gan gynyddu’r cyfleoedd y bydd economi carbon isel yn ei chynnig i’r wlad.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i Lywodraeth Cymru leihau lefel yr allyriadau yng Nghymru o leiaf 80% erbyn 2050.

Mae hyn o’u cymharu â lefel 1990, ac mae targedau wedi’u gosod ar gyfer y blynyddoedd 2020, 2030 a 2040.

Ond er bod Cymru wedi gweld twf mewn diwydiannau ‘gwyrdd’ yn ystod y blynyddoedd diwetha’, mae’n nhw’n cydnabod bod “cyfran uchel” o ynni Cymru yn dod o danwydd ffosil.

Mi fydd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar feysydd amaethyddiaeth, diwydiant, pŵer, trafnidiaeth a gwastraff, a’r nod yw cyrraedd y targed o 45% erbyn 2030.

“Cydweithio”

“Mae Cytundeb Paris yn gosod y cyd-destun ar gyfer mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ond hefyd ar gyfer datgarboneiddio economi’r byd,” meddai’r Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

“Bydd gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yn arwain at aer a dŵr glanach, ac nid yn unig yn gwella ein hiechyd a’n lles, ond bydd yn codi pobol allan o dlodi tanwydd ac yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer diwydiannau gwyrdd.

“Bydd yr ymgynghoriad hwn yn agor deialog ar sut y gallwn gydweithio yng Nghymru i fynd i’r afael â’r her hinsawdd sy’n newid.”