Mae cyn-gadeirydd ar gynghorau Dyfed a Sir Gâr wedi derbyn ‘Rhyddid Sir Gâr’ ar achlysur ei ben-blwydd yn 100 oed heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 11).

Fe dreuliodd David Tom Davies – DT Davies – fwy na 30 mlynedd yn gynghorydd sir dros ardal Dryslwyn, ger Llandeilo, cyn ymddeol yn 2003.

Bu hefyd yn gadeirydd ar Gyngor Sir Dyfed rhwng 1981 a 1982, ac yn gadeirydd Cyngor Sir Gâr rhwng 1995 a 1997.

Ond cyn ymuno â llywodraeth leol, bu’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lle bu’n garcharor rhyfel am gyfnod o chwe mlynedd.

Llwyddodd i ddianc o afael y Natsïaid nifer o weithiau yn ystod y cyfnod hwn, cyn cyrraedd yr hen Iwgoslafia yn y diwedd ac ymuno â chynghreiriaid yn yr Eidal.

Nododd ei atgofion am y cyfnod hwn yn ei hunangofiant, Dianc i Ryddid, a gafodd ei gyhoeddi yn 2015.

“Yr anrhydedd mwyaf”

Wrth dderbyn yr anrhydedd mewn seremoni o law cadeirydd presennol Cyngor Sir Gâr, Mansel Charles, dywed DT Davies ei bod yn “fraint arbennig”.

“Dw i’n hynod falch oherwydd pobol fel chi – sy’n cynrychioli pobol Sir Gâr – sy’n fy anrhydeddu heddiw, ac mae hynny’n golygu mwy i mi nag unrhyw anrhydedd dw i wedi’i dderbyn,” meddai.

Dim ond dwywaith mae ‘Rhyddid Sir Gâr’ wedi’i gyflwyno o’r blaen, a hynny i’r Gatrawd Gymreig Brenhinol yn 2009 a’r diweddar William David Thomas yn 2014.