Mae hen arwydd tafarn enwog y ‘Cayo Arms’ yng Nghaerdydd bellach wedi cael cartref newydd yn y gorllewin.

Daw hynny ar ôl i’r dafarn, a gafodd ei henwi ar ôl Julian Cayo Evans, sefydlydd Byddin Rhyddid Cymru (yr FWA), gael ei hailenwi’n ddiweddar ‘The Pontcanna Arms’.

Ond fe berswadiodd Sian Ifan, sy’n aelod o’r grŵp ymgyrchu, Llysgenhadaeth Owain Glyndŵr, y perchnogion newydd i drosglwyddo hen arwydd y dafarn i deulu’r diweddar genedlaetholwr yng Ngheredigion.

Mae’r arwydd yn cynnwys yr hen enw a llun o Cayo Evans, a bwriad y teulu yw ei osod ar wal y tu allan i’w cartref, Glandenys ar fin y ffordd rhwng Tregaron a Llanbedr Pont Steffan, “fel bo pawb yn gallu ei weld”.

“Trueni”

Er bod yr ymgyrchydd yn dweud y byddai wedi bod yn “ddelfrydol” pe bai perchnogion y dafarn wedi cadw’r hen enw, mae’n mynnu mai achub yr arwydd oedd “yr unig beth” i’w wneud.

Ond ychwanega ei bod yn “druenus” bod yr enw wedi mynd, a’n bod ni’n “colli rhywbeth” trwy beidio â chadw enwau sy’n gysylltiedig â hanes Cymru – yn enwedig yn y brifddinas.

“Fel roeddwn i’n dweud wrth y rheolwr newydd, roedd yn druenus eu bod nhw wedi penderfynu peidio cadw’r enw a pheidio cadw’r arwydd, oherwydd mae yna bobol o bob rhan o’r byd yn cyrraedd Caerdydd,” meddai Sian Ifan wrth golwg360.

“Maen nhw wedi clywed am Cayo ac am y Cayo Arms ac yn edrych ymlaen i fynd yno i gael pryd o fwyd ac i godi gwydriad i Cayo.

“Fydd pobol ddim yn gwybod lle i fynd rŵan. Maen nhw wedi coll cyfle wrth golli’r enw.”