Mae cronfa’n cael ei sefydlu er cof am ferch fach ddwyflwydd oed a fu farw yn dilyn damwain yn afon Teifi.

Rholiodd car rhieni Kiara Moore i mewn i afon Teifi ger Aberteifi ym mis Mawrth, wythnos cyn y byddai hi wedi dathlu ei phen-blwydd yn dair oed.

Daeth ymchwiliad Heddlu Dyfed-Powys i ben ym mis Mai ar ôl iddyn nhw benderfynu na fyddai ei rhieni’n cael eu cyhuddo mewn perthynas â’r “ddamwain drasig”.

Roedden nhw’n credu bod eu car wedi cael ei ddwyn, cyn sylweddoli ei fod wedi llithro i mewn i’r afon, a’u merch fach yn dal yn y cerbyd.

‘Gwaddol Kiara’

Wrth gyhoeddi eu bwriad, dywedodd rhieni Kiara Moore mai ei “gwaddol” fyddai’r gronfa newydd.

Bydd y gronfa’n cynnig y cyfle i deuluoedd sy’n galaru dderbyn triniaeth antur.

Dywedodd tad Kiara, Jet Roberts fod ei ferch “wedi ysbrydoli llawer o bobol dros dair blynedd”, a bod cael dros 500 o bobol yn ei hangladd yn dyst i hynny.