Mae aelod o eglwys y Bedyddwyr yng Nghaerdydd wedi codi gwrychyn sawl un ar gyfryngau cymdeithasol, trwy werthu baneri Lloegr y tu allan i’r Tabernacl yn Yr Ais.

Bu’r cyn-ddiacon wrthi gyda’i stondin tan ddechrau’r prynhawn heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 10), ac mae’n debyg y bu’n aflwyddiannus wrth geisio gwerthu’r baneri car San Siôr i drigolion y brifddinas.

Yn ôl gweinidog capel y Tabernacl, Denzil John, mae’r aelod oedrannus yn “boncyrs am bêl-droed” a methodd “yn ei ddiniweidrwydd” â sylwi y byddai’n corddi’r dyfroedd gyda’i ddewis o stoc

Aeth ati i werthu’r baneri ar ei liwt ei hun, meddai’r Parchedig Denzil John wrth golwg360, a’i nod oedd codi arian ar gyfer gwaith y capel yn Lesotho.

“Gŵr hynaws a welodd gyfle i gefnogi angen dybryd Lesotho yw’r cyfaill, ond na sylweddolodd beth fyddai adwaith eraill i’w ymdrech,” meddai neges gan yr eglwys ar Twitter wedyn.

“Ni chafodd ganiatâd yr Eglwys, ac ni chafodd lawer o werthiant! Croeso i bawb gefnogi ein gwaith.”

Lesotho

Ar ôl derbyn cais am gymorth gan eglwys yn Lesotho, aeth Capel y Tabernacl ati i godi arian a sefydlu clinig meddygol yn y wlad.

Bellach mae’r eglwys wedi codi dros £100,000 at yr ymdrech, ac wedi llwyddo sefydlu lle geni plant yn y wlad, a lle i roi brecwast i blant amddifad.

Mae’r ymdrech hon yn dal yn weithredol.