Bydd cyn-aelodau cangen Plaid Cymru Llanelli – a gafodd eu gwahardd gan y blaid – yn lansio grŵp newydd yr wythnos nesa’.  

‘Fforwm Llanelli’ yw enw’r grŵp, ac mi fyddan nhw’n cynnal dadleuon cyhoeddus o leia’ unwaith y mis ar lu o faterion gwleidyddol.

Yn ôl Cadeirydd dros dro’r grŵp, Mary Roll, bydd materion “cenedlaethol a rhyngwladol” yn cael eu trafod, gan gynnwys ynni niwclear a Brexit.

Ac er gwaetha’ hanes y grŵp, mae’r ffigwr yn mynnu y byddan nhw’n “niwtral” ac yn “hollol anwleidyddol” o ran aelodaeth.

Er nad oes modd i aelodau pleidiau ddod yn aelodau o grŵp y fforwm, mae modd i unrhyw un gymryd rhan yn y dadleuon.

Dim agenda

“Does dim gyda ni agenda,” meddai  Mary Roll wrth golwg360, ond gan gydnabod fod  “gwleidyddiaeth yn dylanwadu ar bopeth”.

“Beth rydyn ni’n trio gwneud yw cael trafodaeth, lle mae pawb yn medru dod i bwy bynnag casgliad y mynnan nhw.”

Bydd y lansiad yn cael ei gynnal ym Mharc y Scarlets, Llanelli, ar Orffennaf 17, gyda’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy yn cymryd rhan.