Mae trefnwyr y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn wfftio sibrydion y bydd yn rhaid iddyn nhw ohirio’r digwyddiad ddiwedd y mis os bydd y tywydd poeth yn parhau.
Wrth i’r gwres achosi problemau ledled y wlad, mae’r posibilrwydd o brinder dŵr ar Faes y Sioe yn codi cwestiynau ar lawr gwlad ynghylch lles yr anifeiliaid a’r ymwelwyr.
Ond mae trefnwyr y Sioe Fawr wedi cadarnhau wrth golwg360 bod y digwyddiad yn mynd yn ei flaen fel arfer rhwng Gorffennaf 23 a 26.
Nid oes trafodaeth ynglŷn â’i gohirio yn digwydd “ar hyn o bryd”, meddai llefarydd wedyn.
Sicrhau lles pobol ac anifeiliaid
Mae llefarydd ar ran Cymdeithasol Amaethyddol Frenhinol Cymru yn dweud nad oes ganddyn nhw “unrhyw broblem” dwr yfed ar Faes y Sioe.
Mae’n dweud bod y Cynllun Dŵr, a gafodd ei ariannu gan Sir Feirionnydd, y sir nawdd yn 2016 – wedi golygu bod gan Faes y Sioe bellach ei dreidd-dwll (borehole) a’i storfa ddŵr ei hun.
Mae hyn, meddai, yn ychwanegol at y cyflenwad o ddŵr cyhoeddus sy’n dal i gael ei darparu iddyn nhw.
Mae hefyd yn ychwanegu bod pob un sied ar y maes wedi’i awyru’n ddigonol i sicrhau lles anifeiliaid ac ymwelwyr, a bod ganddyn nhw fel trefnwyr gynlluniau wrth-gefn i ymdopi â gwahanol amodau’r tywydd.
“Cadw llygaid ar y sefyllfa”
“Yn amlwg, mae sicrhau bod lles yr ymwelwyr ac anifeiliaid ar Faes y Sioe yn brif flaenoriaeth i ni, ac rydym wedi gwario tipyn o arian ac amser yn sicrhau bod ein siediau wedi’u hawyru a bod gennym ddŵr ar gael ar y maes,” meddai’r llefarydd.
“Mae gennym drefniadau wrth-gefn mewn lle pe baen ni eisiau gwneud rhywbeth ymhellach, ond ar hyn o bryd mae’n business as usual ac rydym yn cadw llygaid ar y sefyllfa ac yn sicrhau bod pawb yn rhan o hynny.”