Maes Awyr Caerdydd yw’r ail orau yn y Deyrnas Unedig am gadw at ei amseroedd hedfan, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae’r ffigyrau wedi cael eu cyhoeddi gan y cwmni ystadegol, OAG, sy’n mesur pa mor dda yw gwasanaethau hedfan meysydd awyr.

Ar gyfer y ffigyrau diweddara’, mi gafodd y wybodaeth ei chasglu o feysydd awyr ledled y byd rhwng mis Mehefin y llynedd a mis Mai eleni.

Ynghyd â chyrraedd yr ail safle yn y Deyrnas Unedig, mi gyrhaeddodd Maes Awyr Caerdydd y 25ain safle ledled y byd hefyd – a hynny allan o 513 o feysydd awyr.

Mae Maes Awyr Caerdydd eisoes wedi derbyn statws pum seren gan y cwmni yn 2017, am fod ei wasanaeth hedfan o safon uchel.

“Cyrhaeddiad anferth”

Yn ôl Spencer Birns, Cyfarwyddwr Masnachol Maes Awyr Caerdydd, mae yna “nifer o elfennau cefn llwyfan” wedi cyfrannu at y cyhoeddiad diweddara’ hwn – yn bennaf y gwasanaeth cwsmer “effeithlon”.

“Mae sicrhau statws pum seren a bod yr ail orau yn y Deyrnas Unedig, ynghyd â 25ain yn y byd eleni, yn gyrhaeddiad anferth i’r tîm, sy’n gweithio’n galed i greu maes awyr y mae pobol Cymru yn mwynhau ei ddefnyddio ac yn falch ohono,” meddai.