Yn Llys y Goron yr Wyddgrug mae’r achos wedi dechrau yn erbyn dyn a dynes sydd wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth beicwraig oedrannus yn Sir y Fflint ddwy flynedd yn ôl.

Cafodd Carol Boardman, 75, mam y beiciwr Olympaidd Chris Boardman, ei lladd mewn gwrthdrawiad yng Nghei Conna ar Orffennaf 16 2016.

Mae Liam Rosney, 32, o Gei Conna wedi’i gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Mae e hefyd wedi’i gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder – ynghyd â’i wraig, Victoria Rosney, 32, sydd hefyd o’r un dref.

Mae’r ddau wedi gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.

“Ar y ffôn”

Clywodd y llys heddiw bod Liam Rosney ar y ffôn gyda’i wraig eiliadau’n unig cyn y gwrthdrawiad.

Mae Liam a Victoria Rosney yn gwadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy ddileu cofnodion o’r galwadau ffôn.

Roedd Carol Boardman wedi cael anafiadau difrifol ar ôl cael ei tharo gan dryc Mitsubishi Liam Rosney ar ôl iddi syrthio oddi ar ei beic, a bu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Dywedodd John Philpotts ar ran yr erlyniad bod Liam Rosney wedi cael amser i weld Carol Boardman ac i stopio mewn pryd er mwyn osgoi gyrru ei gerbyd drosti ond nad oedd wedi gwneud hynny.

Yn ôl John Philpotts roedd cofnodion ffon yn dangos bod pedair galwad ffôn rhwng Liam Rosney a’i wraig cyn y gwrthdrawiad a bod yr olaf wedi dod i ben pedair eiliad cyn y credir i’r gwrthdrawiad ddigwydd.

Ond nid oedd cofnod o’r galwadau ar ei ffôn, a phan gafodd ffôn Victoria Rosney ei gymryd gan yr heddlu ym mis Tachwedd 2016 roedd yr holl alwadau o’r dyddiad pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad wedi cael eu dileu.

Ychwanegodd John Philpotts bod yr achos yn tanlinellu’r “peryglon difrifol posib o ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru.”

Nid oedd Liam Rosney yn goryrru ar y pryd ac nid oes unrhyw awgrym ei fod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, meddai.

Mae disgwyl i’r achos barhau am wythnos.