Mae Aelod Cynulliad Llafur yn wynebu cael ei gwahardd o’r Senedd am bythefnos, am fethu a rhoi prawf anadl.

Cafodd Rhianon Passmore ei gwahardd rhag gyrru ar Chwefror 12, pan gyfaddefodd ei bod wedi methu â rhoi prawf anadl i’r heddlu.

Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad wedi argymell ei bod yn cael ei gwahardd am 14 diwrnod – ni fyddai’n cael ei thalu am y cyfnod hwnnw.

Bydd Aelodau Cynulliad yn cynnal dadl ar yr argymhelliad  ar Orffennaf 18, ac fe fydd y gwaharddiad yn dod i rym ar Fedi 18 os caiff ei basio.

Mae Rhianon Passmore wedi ymddiheuro am ei hymddygiad, ond yn mynnu nad oedd y weithred yn fwriadol.

Beth ddigwyddodd?

Cafodd Rhianon Passmore ei harestio ym mis Medi 2017, pan fethodd ei char yn Llaneirwg, Caerdydd.

Wrth aros am wasanaeth i’w char, ymddangosodd yr heddlu gan ofyn iddi gymryd prawf anadl, ond fe fethodd. Cafodd ei harestio a’i chludo i orsaf heddlu lle fethodd unwaith eto â darparu sampl.

Roedd yr Aelod Cynulliad, meddai, wedi yfed tri gwydryn o win cyn gyrru, ac wedi cymryd cyffuriau asthma  – mae’n honni iddi ddioddef pwl o asthma ar ôl casglu’i char.

Dyw Rhianon Passmore ddim wedi cynnig esboniad am pam y bu iddi fethu a chynnig sampl, ond mae hi wedi awgrymu mai’r asthma oedd rhywfaint ar fai.