Mae pedwar criw o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dal i geisio rheoli tân ar Fynydd Tŵr ger Caergybi.

Mi gafodd y gwasanaeth ei galw am 9:30yh ddoe (dydd Sul, Gorffennaf 8), gyda chriwiau wedi bod yn diffodd y fflamau trwy gydol y nos.

Bu criwiau o Gaergybi, Llangefni, Rhosneigr, Conwy ac Amlwch yn bresennol ar y safle, gyda’r tân yn ymestyn ar hyd 5,000 milltir sgwâr o dir.

Mae’r gwasanaeth yn ychwanegu bod pedwar criw yn parhau ar y mynydd, ond nid yw’r tân yn fygythiad i unrhyw dai ar hyn o bryd.