Fe ddaeth cadarnhad fod Cymro a oedd newydd ddechrau ar gyfnod o 14 mlynedd dan glo yn un o garchardai Lerpwl, wedi marw ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 7).

Roedd Paul Jordan o’r Felinheli wedi’i ddyfarnu’n euog o drywanu Elizabeth Jordan i farwolaeth yn ei chartref ym Mangor union flwyddyn yn ol.

Fe wnaeth Paul Jordan, 54, drywanu Elizabeth ‘Betty’ Jordan, 53, i farwolaeth yn ardal Maesgeirchen ym Mangor ym mis Gorffennaf 2017.

Yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Mai eleni, fe gafodd ei ddeddfrydu i dreulio beth bynnag 14 blynedd yng ngharchar am ei llofruddio.

Fe wnaeth y Gwasanaeth Carchardai gadarnhau bod Jordan wedi marw yng Ngarchar Altcourse yn Lerpwl ddydd Sadwrn.