Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am ferch, 14, sydd ar goll o ardal Hwlffordd yn Sir Benfro.

Does neb wedi gweld Ella Carr ers 2 o’r gloch pnawn ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 7).

Bryd hynny, roedd hi’n gwisgbo siaced werdd, het mewn print cuddliw, a jins glas wedi rhwygo.

Mae’r heddlu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu ar y rhif 101.