Mae cynghorydd cymuned yn ardal Aberystwyth yn dweud y bydd ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i’w ardal yn cynnig “ffenestr siop” i gymunedau di-Gymraeg.

Y tro diwetha’ i’r brifwyl ddod i Geredigion, mi gafodd ei chynnal ar dir Gelli Angharad ger Capel Bangor, a dyna’r maes sydd wedi’i awgrymu eto gan Gyngor Cymuned Llanbadarn Fawr ar gyfer ymweliad y Brifwyl â’r sir yn 2020.

Yn ôl y cynghorydd David Greany, sydd wedi’i fagu yn ardal Llanbadarn Fawr, mi fydd dychwelyd yr ŵyl i’r ardal yn rhoi “hwb mawr” i weithwyr yr iaith ac yn fodd o ddenu’r di-Gymraeg.

“Mae yna lawer o bobol o bob math o wledydd dan haul yn byw yn ardal Llanbadarn ac yn Aberystwyth, a bydde’r Eisteddfod yn ffenestr siop iddyn nhw weld y cyfoeth sydd gennym ni yma yng Nghymru o ran ein diwylliant cynhenid,” meddai wrth golwg360.

“Fe fydd yr ŵyl hefyd yn rhoi hwb mawr i ni yn fan hyn i barhau i weithio dros yr iaith yn ein cymunedau, yn enwedig ymhlith y bobol ifanc. Dyna lle mae’r Gymraeg yn wannach… dros y blynyddoedd diwetha’, mae llai a llai o Gymry Cymraeg yn byw yma yn y fro, oherwydd rydan ni’n colli’r to ifanc i ryw radde.

“Mae digon o fewnfudwyr yn dod, ac mae’n bwysig bod nhw’n gweld bod hwyl a chyffro yn perthyn i’r byd Cymraeg, a’i bod nhw’n ymuno â bywyd llawn bwrlwm…”

Y safle “amlwg”

Er nad yw tir Gelli Angharad o fewn ffiniau Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr, mae David Greany yn ychwanegu ei bod nhw wedi awgrymu’r safle, gan nad mai dyna oedd yr un “amlwg”.

“Does dim llawer o safleoedd yn ein bro fach ni, fel mae’n digwydd,” meddai. “Roedd Gelli Angharad a’r tiroedd agos yn lle amlwg iawn.

“Mae yna gaeau eraill o gwmpas, ond mae problemau wedyn oherwydd perygl o lifogydd. Does dim llawer o dir gwastad yn y fro bellach.”