Elfyn Llwyd AS
Mae Aelod Seneddol wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn pryderu bod “rhuthr gormodol i ddangos esiampl” o bobl ifanc sydd wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol i annog terfysg.

Er bod Elfyn Llwyd AS yn pwysleisio bod rhaid edrych ar fanylion a ffeithiau “pob achos yn unigol” i bennu dedfryd addas, dywedodd yn gyffredinol “bod ‘na beryg yn fan hyn i bobl ruthro i orwneud y busnes esiampl.”

Daw ei sylwadau ar ôl i ddyn 21 oed o Fangor gael ei garcharu am bedwar mis am annog terfysg a ymddangosodd ar Facebook am 20 munud.

Roedd David Glyn Jones o Fangor wedi dweud ar Facebook: “Beth am ddechrau terfysg ym Mangor… hoffwn i falurio car heddlu, beth amdanoch chi?”

Clywodd Llys Ynadon Caernarfon bod un o’i gyn-gydweithwyr wedi gweld y neges ac wedi ffonio’r heddlu.

Ond yn Lloegr fe lwyddodd llanc 16 oed i osgoi dedfryd o garchar ar ôl iddo yntau ddefnyddio Facebook i annog terfysg. Cafodd Johnny Melfah ei arestio ar 9 Awst. Ond fe benderfynodd ynadon yn Llys Ieuenctid Caerwrangon ddoe na ddylid ei anfon i garchar. Fe fydd yn gorfod gwneud 80 awr o waith di-dâl yn lle.

Mae o leia chwech o bobl yn y Deyrnas Unedig bellach wedi wynebu cyhuddiad o geisio annog terfysg ar gyfryngau cymdeithasol.  Mae’r dedfrydau mwyaf llym hyd yn hyn wedi bod yn Sir Gaer lle cafodd dau ddyn eu carcharu am bedair blynedd am annog terfysgoedd.

Dywedodd Elfyn Llwyd, AS Arweinydd Grŵp San Steffan Plaid Cymru wrth Golwg360:

“Yn gyffredinol – dw i’n bryderus iawn… Mae ’na elfen o ddangos esiampl yn sicr. Ond,  elfen yn unig ddylai honna fod. Mae’n rhaid edrych ar bob achos ar ei ffeithiau,”.

“Os ydach chi’n meddwl am un o’r bobl ‘ma sy’ di dwyn potel o ddŵr a ‘di cael ‘i ddanfon i garchar, mae’n ddrwg gen i – mae  hynny yn hollol wallgof yn fy marn i.

“Ar y llaw arall, os ydi rhywun reit yn ei chanol hi’n malu ffenestri, yn annog pawb ac yn dwyn – maen nhw ar ben arall y stori. Ac yn naturiol, mae gwahaniaeth yn lefelau’r dedfrydau.

“Dw i yn meddwl, yn gyffredinol – bod ’na ruthr gormodol i ddangos esiampl yn fan hyn.

“…Does gen i ddim amheuaeth yn y byd y bydd y llys apêl yn newid llawer un o’r dedfrydau yma,” meddai.

‘Ymateb yn gryf iawn’

“Dw i’n meddwl bod y Llywodraeth a’r llysoedd wedi ymateb yn gryf iawn iawn i’r terfysg,” meddai Hywel Williams, AS wrth Golwg360.

“Mae’n amlwg bod pobl oedd gerbron y llys yn yr achosion cynnar yn sicr wedi cael dedfrydau trwm iawn yn gymharol. Dydw i ddim yn meddwl dylai fod  neb yn defnyddio Facebook na ddim cyfrwng arall i hyrwyddo torcyfraith a therfysg fel hyn.”

“Fedra i ddim gwneud sylw ar achos unigol. Yr oll faswn i’n ddweud yn gyffredinol yw na ddylai pobl annog terfysgaeth ond bod anghysondeb yma.

“Dw i’n meddwl bod y Llywodraeth yn ymateb i gyfrwng newydd dydyn nhw ddim cweit  yn ei ddeall a heb ddygymod â fo eto.

“Ond, hefyd, ddylai pobl sylweddoli pan maen nhw’n dweud rhywbeth ar Twitter neu Facebook bod rhywbeth sy’n ymddangos naill ai’n ddoniol neu’n ysgafn pan ‘da ni’n siarad yn edrych yn dra bygythiol ar-sgrin,” meddai.