Fe fyddai Ceredigion gyfan “yn elwa” pe bai’r Ŵyl yn dod i safle ar gyrion pentref bychan Ciliau Aeron, yn ôl cadeirydd y cyngor cymuned lleol, Arwel Jones.

Y tir o gwmpas plasdy hanesyddol Llanerchaeron sydd ganddo dan sylw – safle sydd wedi bod yn gartref i Eisteddfod yr Urdd lwyddiannus iawn, ac sy’n gyrchfan ymwelwyr boblogaidd ar fin ffordd yr A482 rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan.

Ac mae’r ffaith y byddai ymwelwyr 2020 yn teithio rhwng y ddwy dref yn rheswm pam y gallai’r sir gyfan elwa, meddai.

Er bod swyddfa’r post yn y pentref wedi hen gau ei drysau, mae’r ysgol gynradd yn agored a’r Gymraeg i’w chlywed ar y buarth, ac mae’r lle’n denu pysgotwyr a cherddwyr, ynghyd â phobol sy’n ymddiddori yn hanes y bardd, Dylan Thomas. Mae Llwybr Dylan Thomas yn dirwyn trwy’r pentref.