Mae disgwyl y gallai Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 7) glywed yn lle y bydd y brifwyl yn cael ei chynnal pan fydd yn ymweld â Cheredigion yn 2020.

Roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi mynegi diddordeb mewn cynnal y brifwyl yn 2020 cyn belled yn ôl â 2013, ac fe gafodd wahoddiad swyddogol ei anfon at Fwrdd yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Medi 2015. Roedd y sir hyd yn oed wrth law i gamu i’r adwy eleni pe bai’r cynllun i gynnal ‘eisteddfod ddi-faes’ yng Nghaerdydd yn syrthio trwodd.

Ers hynny, mae chwech ardal o fewn y sir wedi cyflwyno cais i’r Cyngor yn cynnig safleoedd addas, sef:

  • Llanbedr Pont Steffan;
  • Aberteifi;
  • Ciliau Aeron;
  • Tregaron;
  • Llansanffraid;
  • Llanbadarn Fawr

Er bod y Cyngor wedi derbyn y ceisiadau hyn ym mis Ebrill 2016, does dim penderfyniad wedi ei gyhoeddi eto ynglŷn â pha safle mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ei ffafrio.

Mae golwg360 ar ddeall y bydd yna gyhoeddiad yn cael ei wneud gan y Bwrdd Rheoli yn ystod cyfarfod y Cyngor yn Ysgol Aberconwy, Conwy, a fydd yn dechrau am 10.30yb heddiw. Y pnawn yma, fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 yn cael ei chyhoeddi yn yr hen dref.