Mae Guto Bebb wedi beirniadu’r cyn-Weinidog Brexit, David Jones.

Mae’r ddau yn Aelodau Seneddol Ceidwadol o Gymru.

Daw hyn ar ôl i David Jones, sy’n aelod dros Orllewin Clwyd, feirniadu Theresa May o gefnu ar ei haddewidion ynghylch Brexit.

Mae cynigion y Prif Weinidog, sef cadw at safonau’r Undeb Ewropeaidd ar reolau masnach a nwyddau, yn croesi ei “llinellau coch” hi ei hun, meddai David Jones.

Ond mae Guto Bebb, AS Aberconwy, wedi beirniadu ei gyd-aelod o fod yn “sur”, gan ychwanegu bod David Jones wedi methu â chynnig unrhyw gynigion positif ei hun pan oedd yn Weinidog Brexit.

Ffraeo

 Dyma’r ffrae ddiweddara’ i Guto Bebb fod yn rhan ohoni ynghylch Brexit, wedi iddo feirniadu nifer o’i gyd-aelodau yn y Blaid Geidwadol sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae eisoes wedi cyhuddo’r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, o wneud sylwadau “ymfflamychol”, a hynny ar ôl iddo ddweud nad oedd gan fusnesau le i sôn am eu pryderon ynghylch Brexit.

Mi wnaeth hefyd feirniadu cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, am ei sylwadau ynghylch rhybuddion Airbus.

Cyfarfod yn Chequers

 Mae Theresa May yn cwrdd â’i chabinet heddiw er mwyn trafod pa mor agos y dylai’r Deyrnas Unedig lynu at safonau’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit.

Gyda rhaniadau o fewn y cabinet a’i phlaid ei hun ar y mater hwn, mae Theresa May wedi disgrifio’r cyfarfod yn Chequers fel “cyfle” i’w chabinet ddod i gytundeb.