Pe bai Cymru yn wlad annibynnol, fyddai “dim modd i Gaerdydd drin y gogledd fel coloni ddim mwy”.
Dyma farn ddadleuol y cynghorydd a’r academydd Simon Brooks, awdur casgliad newydd o ysgrifau am agweddau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol ar y bywyd Cymraeg, Adra.
Un ddadl y mae’n ei chyflwyno yn y llyfr yw bod bröydd gwledig fel Porthmadog yn dioddef oherwydd bod un blaid mewn grym yn barhaus.
“Dw i o blaid parhad y cymunedau Cymraeg,” meddai Simon Brooks wrth gylchgrawn Golwg.
“Problem datganoli ydi bod lot o broblemau yn y gogledd-orllewin. Mae’r ffaith bod gyda ni un blaid mewn grym yn barhaus yng Nghaerdydd, ac yng Ngwynedd – yr un blaid o hyd ac o hyd mewn grym – mae hynny’n digwydd achos d’ych chi ddim yn cael realingment gwleidyddol.
“Dydach chi ddim yn cael realignment gwleidyddol oherwydd bod gwleidyddiaeth Cymru o hyd yn cael ei siapio gan wleidyddiaeth Prydain, yn benodol yr angen i wrthsefyll Ceidwadaeth neu Dorïaeth.
“Pe tasai Cymru yn annibynnol mi fuasai gennych chi realignment gwleidyddol yng Nghymru. Pe tasai 80% o’r boblogaeth yn byw y tu allan i ardal Gaerdydd, fasech chi byth yn medru rhoi pob dim yng Nghaerdydd. Mi fasech chi’n gorfod datganoli.”
Yn ddiweddar, wrth sôn am ei hawydd i olynu Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru, fe ddywedodd Gweinidog y Gymraeg bod angen rhoi mwy o lais i bobol y gogledd yn Llywodraeth Cymru.
“Dw i’n ymwybodol bod nifer o bobol yn y gogledd ddwyrain, yn arbennig, yn teimlo pellter rhyngddyn nhw a’r Cynulliad,” meddai Eluned Morgan.
“Felly fydden i yn awyddus i weld rhywun yn y Cabinet sydd yn cynrychioli a sicrhau bod llais y gogledd yn cael ei glywed.”
“Sefyllfa od”
Mae datganoli wedi “rhewi rhai o elfennau gwaethaf y wladwriaeth Brydeinig”, yn ôl Simon Brooks.
“Dyna pam dw i yn y sefyllfa od yma lle dw i’n gwrthwynebu datganoli ond dw i’n cefnogi annibyniaeth,” meddai Simon Brooks. “Dw i ddim yn cefnogi cael gwared â’r Cynulliad er mwyn i ni fyw yn ‘England & Wales’; ond dyna pam dw i’n gefnogol i annibyniaeth. Yn y bôn, pe tasai Cymru yn annibynnol, dw i ddim yn meddwl buasai modd i Gaerdydd drin y gogledd fel coloni dim mwy.
“Mae yna ddigon o bleidleisiau yn y gogledd i sicrhau, mewn Cymru annibynnol, bod modd i chi greu clymbleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad a fyddai’n rhwystro hynny.
“Ar hyn o bryd dydi hynny ddim yn bosib, achos mae gennych chi lywodraeth Lafur sydd wedi cael ei seilio ar block votes Llafur sydd, yn y bôn, yno oherwydd bod block votes Llafur yng Nghymru yn gwrthsefyll block votes y Torïaid yn Lloegr.”
Mwy gan Simon Brooks yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg