Mae’r corff sy’n cadw llygad ar ymddygiad yr heddlu, yr IOPC, wedi cadarnhau y pnawn yma (dydd Iau, Gorffennaf 5) eu bod yn ymchwilio i farwolaeth dyn yng Nghasnewydd dros y Sul.

Bu farw dyn 23 oed, a oedd yn hanu o Sudan, ar ôl syrthio o ben adeilad yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn, Mehefin 30.

Roedd swyddogion gorfodaeth Mewnfudo wedi bod i ganolfan golchi ceir ar Stryd Albany yn y ddinas tua 10yb, fel rhan o gyrch. Y gred ydi fod y dyn ifanc wedi dringo i ben to ffatri gerllaw, unwaith y daeth yr heddlu i mewn.

A’r peth nesaf, fe’i cafwyd ar y llawr, ag anafiadau difrifol iawn. Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw, ac fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd, lle bu farw yn fuan wedyn.

“Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig a brawychus,” meddai llefarydd ar ran swyddfa’r IOPC. “Mae cyfrifoldeb arnon ni i ymchwilio i ddigwyddiad lle mae aelod o’r cyhoedd yn marw neu’n diodde’ anafiadau difrifol wrth i swyddogion fynd o gwmpas eu gwaith.

“Rydyn ni wedi agor ymchwiliad trwyadl i’r hyn ddigwyddodd fore Sadwrn, a sut y cafodd y cyrch ei chynllunio.”