Dylai rhieni roi eu ffonau symudol i’r naill ochr a siarad â phlant ifanc er mwyn eu helpu i wella eu geirfa, yn ôl yr awdur, Philip Pullman.

Mae’r awdur ffantasi sy’n hanu o Ardudwy o’r farn nad “rhestrau dysgu geiriau” yw’r ffordd orau o wella sgiliau ieithyddol pobol ifanc, ond trwy ganu hwiangerddi, chwarae gemau a sgwrsio efo nhw, cyn iddyn nhw ddechrau’r ysgol.

Fe awgrymodd astudiaeth a gyhoeddwyd yn gynharach eleni y gallai plant fod mewn perygl o danberfformio yn yr ystafell ddosbarth os oes ganddyn nhw eirfa gyfyngedig.

“Mae plant wrth eu bodd yn cael eu cynnwys mewn sgyrsiau,” meddai Philip Pullman. “Mae’n fy llenwi ag anobaith wrth i mi weld rhywun yn gwthio cadair wthion gyda phlentyn ynddo, a bod y rhieni yn cerdded ac yn siarad ar eu ffonau symudol.

“Peidiwch â gwahardd y plentyn rhag cael sgyrsiau!” meddai wedyn. “Siaradwch â nhw, ymgysylltwch â nhw. Fyddan nhw ddim yn deall popeth fyddwch chi’n ei ddweud, ond maen nhw’n hoff o gael cysylltiad.

“A dyna’r sylfaen orau ar gyfer llwyddiant ym mhob math o iaith yn ddiweddarach, darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando. Mae’n ofnadwy o bwysig. “