Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am rywun i lenwi swydd Comisiynydd y Gymraeg – a hynny er eu bod yn bwriadu cael gwared ar y job yn y pen draw.

Ym mis Awst y llynedd, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru mewn papur gwyn – ‘Bil y Gymraeg’ – ei bod yn bwriadu cael gwared ar y swydd gan benodi ‘Comisiwn y Gymraeg’ yn ei lle.

Ers hynny mae sawl corff – yn cynnwys Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg – wedi beirniadu’r cam, gan ddadlau y bydd yn gwanhau’r drefn bresennol o gadw llygad ar y defnydd a wneir o’r Gymraeg gan y sector cyhoeddus.

Ond yr wythnos hon, mae’r swydd â chyflog o £95,000 yn cael ei hysbysebu ar sawl gwefan recriwtio a’r wasg.

Yn ôl y disgrifiad, mae’r swydd yn un “lawn amser” am “gyfnod penodol”… ac mae’r Gymraeg yn “hanfodol”.

Meri Huws yw’r Comisiynydd ar hyn o bryd, ac mae hithau wedi croesawu creu un sefydliad i hybu a rheoleiddio’r iaith, dan yr amod bod gan y corff “annibyniaeth briodol”.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Medi 1.