Mae un o ymgeiswyr am arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi cael ei ddwyn i mewn i drafodaeth hir ar ynni niwclear ac ar ei ogwydd wleidyddol gan un o gefnogwyr Leanne Wood ar wefan gymdeithasol Facebook.

Neithiwr (nos Fercher, Gorffennaf 4) fe ofynnodd Osian Jones i Rhun ap Iorwerth a fyddai polisi Plaid Cymru ar ynni niwclear yn newid pe bai Aelod Cynulliad Ynys Mon yn dod yn arweinydd.

Mewn cyfres o negeseuon sy’n ei gefnogi ac yn ymosod ar Rhun ap Iorwerth am gadw ‘meddwl agored’ ar fater adeiladu atomfa newydd yn Yr Wylfa, mae’r Aelod Cynulliad ei hun yn croesawu’r drafodaeth.

Ymateb Rhun ap Iorwerth 

“Pan mae rhywun yn galluogi trafodaeth, mae’n gorfod derbyn sylwadau digon plaen,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Ar Wylfa, dwi’n cael fy nghyhuddo’n aml o ‘eistedd ar y ffens’ neu rwbath felly, er mwyn ennill Ynys Môn. Y gwir ydi, mod i wedi dal yr un farn am Wylfa ers ymhell, bell cyn mynd yn wleidydd.

“Dw i ddim yn ffafrio niwcliar (o bell ffordd) ond dwi’n nabod gormod o hogia fel chi sy’n gweithio yn Wylfa ac eisiau cario mlaen i wneud, a man nhw’n gofyn i fi dros beint neu beth bynnag, ‘wnei di’n helpu ni i gael y jobs ’ma’ – dwi ddim yn gallu edrych i’w llygaid nhw a deud ’dwi’n mynd i drio ‘ngora stopio’r swyddi rhag dod’.

“O ran symud o’r chwith… does gen i ddim diddordeb mewn symud “o’r chwith” ond yn hytrach os dan ni am ddenu cymaint o bobl ag y gallan ni at y gwaith o greu Cymru hyderus, annibynol, mae’n rhaid tynnu pobl o’r chwith ac ar draws y canol. Sdim pwynt symud “i’r canol” achos ti jysd yn bod yn gul mewn ffordd arall.

“O ran gweithio efo’r Toris. Allwn i byth (yn amlwg iawn!) gefnogi Prif Weinidog Ceidwadol. (Dwi chwaith ddim awydd clymblaid efo’r Ceidwadwyr) ond dwi hefyd yn meddwl y basa Prif Weinidog Llafur ARALL yn wirioneddol ddrwg i Gymru ac i ddatganoli, felly be faswn i’n ffafrio ydi ryw fath o gytundeb llai ffurfiol efo pa bynnag blaid allganiatau i Blaid CYmru ARWAIN llywodraeth a dechrau’r gwaith o drawsnewid Cymru.

“Ond ar ol yr etholiad geith hynny ei benderfynu beth bynnag. Cariwch mlaen i ofyn cwestiynau, a hyd yn oed os mai dros un o’r ddau arall fyddwch chi’n pleidleisio… cofiwch mai cenedlaetholwyr ydan ni, sydd isho i Gymru ddatblygu fel cenedl.”

Cliciwch ar y swigod sgwrsio isod, i weld y drafodaeth yn llawn…

https://www.facebook.com/osian.jones.77/posts/2082437435161183