Mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi cyd-ysgrifennu llythyr yn cwyno am ran y ddwy wlad yn y papur gwyn sy’n amlinellu’r broses Brexit.

Mae’r llythyr wedi’i ysgrifennu gan Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford ac Ysgrifennydd Cysylltiadau Cyfansoddiadau’r Alban, Michael Russell, a’i anfon at Ysgrifennydd Brexit San Steffan, David Lidington.

Maen nhw’n tynnu sylw at ddiffyg cyfle i ddweud eu dweud yn ystod y broses o lunio’r papur gwyn, ac nad yw’r naill lywodraeth na’r llall wedi cael gweld copi drafft o’r llythyr cyn trafodaethau heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 5).

Maen nhw’n dweud bod Llywodraeth Prydain wedi mynnu y byddai digon o gyfle i’r ddwy wlad gael lleisio barn ar y papur wrth ei lunio.

‘Ddim mor gynhwysfawr ag y dylai fod’

“Dydyn ni ddim wedi cael y cyfle i ddarllen Papur Gwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ei safbwynt negodi â’r Undeb Ewropeaidd cyn cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion heddiw,” meddai Mark Drakeford.

“Felly bydd yn amhosib i ni wneud y math o gyfraniad ystyriol, ar sail tystiolaeth, sy’n hanfodol yn ein barn ni.

“Mae hyn yn amlwg yn mynd yn groes i gylch gorchwyl y Cyd-bwyllgor, sy’n nodi bod gofyn i’r Pwyllgor geisio sicrhau cytundeb ar safbwynt negodi Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai wedyn.

“Mae’n golygu na fydd safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig mor gynhwysfawr ag y dylai fod o ran manylion am gyfrifoldebau datganoledig, wrth i gam nesaf allweddol y negodiadau gychwyn.”

Y llythyr

Dywed y llythyr y “bu’n rhaid i ni gyfrannu ar sail crynodeb llafar byr o’r prif benodau”, a’i fod yn “hynod o ryfedd bod o leiaf un o’r penodau wedi’i hanfon at ein Hysgrifenyddion Parhaol – nad ydynt yn aelodau o’r Fforwm – pan oedd y cyfarfod ar y gweill”.

Ychwanega fod “hyn yn gwbwl groes i’r sicrhad a roddwyd i ni y byddem yn cael cyfle ystyrlon i gyfrannu at y safbwyntiau negodi wrth iddynt gael eu datblygu”.

Ac mae’n dadlau fod yna “ddiffyg ystyriaeth o’r cyd-destun ehangach”, sef ei bod yn “anodd trafod trafnidiaeth drawsffiniol heb ystyried y cynigion ynghylch y trefniadau tollau, ac mae’r fframwaith symudedd arfaethedig ar gyfer mudo yn amlwg yn allweddol i’r bennod ar wyddoniaeth ac ymchwil, i gydweithredu ym maes cyfraith sifil, ac i sawl agwedd arall ar y Papur Gwyn”.

Ac maen nhw’n dadlau na fydd unrhyw drafodaeth yn “ystyrlon yn ein tyb ni, oni bai ein bod wedi cael gweld testun y Papur Gwyn drafft ymlaen llaw”.

Goblygiadau

Wrth drafod goblygiadau peidio â gweld y llythyr cyn y trafodaethau, dywed y llythyr: “Os na chawn y cyfle hwn, bydd raid i ni ddweud yn glir nad ydym wedi cael unrhyw gyfle o bwys i ystyried cynnwys y ddogfen, heb sôn am ddylanwadu arno.

“Ac mae hon yn ddogfen a fydd yn honni ei bod yn mynegi barn y Deyrnas Unedig gyfan am faterion – llawer ohonynt wedi’u datganoli – ac am bwnc sydd o’r pwys mwyaf i bobol Cymru a’r Alban.”