Mae Adam Price wedi ymuno â Rhun ap Iorwerth, a chyhoeddi y bydd yn sefyll am arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Daw hyn rhai dyddiau wedi i Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr alw ar yr arweinydd presennol, Leanne Wood, i gamu o’r neilltu a rheoli’r blaid ar y cyd.

Cafodd yr alwad ei wrthod gan Leanne Wood – ffigwr sydd wedi bod wrth y llyw ers chwe blynedd – ac ambell aelod arall o’r blaid.

Er hynny, mae’r arweinydd wedi datgan y bydd yn camu i lawr os na fydd yn Brif Weinidog yn sgil Etholiad y Cynulliad 2021.

Mae penderfyniad y ddau Aelod Cynulliad i herio Leanne Wood yn golygu bod pob un blaid – gan eithrio’r Democratiaid Rhyddfrydol – bellach yn wynebu cystadleuaeth am arweinydd.

Gweledigaethau?

Er nad yw Adam Price wedi cynnig datganiad swyddogol o’i weledigaeth eto, mae’r ffigwr eisoes wedi beirniadu ‘r blaid o “aros mewn man cyffyrddus”.

Mae hefyd wedi galw am “ddechrau o’r newydd” a datblygu “corff o syniadau creadigol a chredadwy er mwyn ennyn diddordeb a hyder pobol Cymru”.

Mewn fideo ar ei gyfrif Twitter, mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud bod yn rhaid i “Blaid Cymru arwain y ffordd tuag at y Gymru hyderus.”

Ac mae wedi dweud ei fod yn gobeithio “trafod gwahanol weledigaethau, gwahanol arddulliau a gwahanol syniadau”.