Mae’n bwysig fod pobol Cymru yn deall bod y Ceidwadwyr Cymreig yn “eitha’ gwahanol” i’r Torïaid tros Glawdd Offa, meddai Suzy Davies, Aelod Cynulliad Ceidwadol sydd bellach wedi taflu’i het i’r cylch i olynu Andrew RT Davies yn arweinydd ar y blaid yng Nghymru.

Mae’r ffigwr yn cydnabod bod Ceidwadwyr ledled y Deyrnas Unedig yn “rhannu’r un egwyddorion”, ond yn teimlo bod y blaid wedi ceisio dangos sut maen nhw “wahanol”.

Ac wrth edrych i’r dyfodol at gystadleuaeth arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, mae Suzy Davies am roi Brexit i’r neilltu, a manteisio ar y cyfle i drafod hunaniaeth y blaid yng Nghymru.

“Mae Brexit wedi newid pob peth,” meddai wrth golwg360. “Dyna’r unig beth rydym ni wedi bod yn sôn amdano fe. Ond dyw’r gystadleuaeth bresennol ddim am Brexit.

“Mae am ddyfodol y blaid, a sut yr ydym ni am fwrw ymlaen gyda’n gweledigaeth i helpu pobol Cymru ddeall sut mae Ceidwadwyr Cymreig yn medru newid sut yr ydym yn byw yng Nghymru.”

Andrew RT Davies

Wrth fyfyrio am gyfnod Andrew RT Davies wrth y llyw, mae Suzy Davies yn derbyn bod gan bob arweinydd “shelf life”, ond yn cynnig crynodeb ffafriol.

“Dw i’n falch gyda sut mae Andrew wedi bod yn ystod y saith blynedd ddiwetha’ – cant y cant,” meddai. “Achos mae e wedi bod yn gryf iawn mewn sefyllfaoedd oedd yn anodd iddo fe.

“Mae’n bwysig gweld hynny mewn arweinydd, dw i’n credu.”

Hyd yma mae dau Aelod Cynulliad wedi cyfleu eu hawydd i olynu Andrew RT Davies, sef Paul Davies a Suzy Davies.