Fe fydd mwy na £1m yn cael ei fuddsoddi mewn cynllun ar gyfer marchnata bwyd môr o Gymru yn rhyngwladol yn cyfnod wedi Brexit, yn ôl Lywodraeth Cymru.

Mae’r Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, yn addo y bydd Prosiect Datblygu’r Farchnad Bwyd Môr yn derbyn cymorth am y pedair blynedd nesa’.

Nod y cynllun, a gafodd ei sefydlu mewn partneriaeth rhwng Menter a Busnes a’r cwmni Seafish, yw datblygu’r farchnad ar gyfer bwyd môr o Gymru a gafodd ei ddal a’i brosesu yn lleol.

Bydd y cynllun hefyd yn helpu busnesau bwyd môr i:

  • roi gwerth i fwyd môr;
  • deall anghenion y farchnad;
  • gwella’r arbenigedd o ran marchnata yn y sector;
  • annog llongau i gyrraedd safon Cynllun Pysgota Cyfrifol.

Mae disgwyl i’r prosiect roi cymorth i 60 o fusnesau yng Nghymru, ac ym mis Medi, mi fydd yn mynd ar daith fasnach i Hong Kong, er mwyn arddangos bwyd môr gorau Cymru yn nigwyddiad Expo Bwyd Môr Asia 2018.

Heriau Brexit

“Bydd Brexit yn cyflwyno heriau yn ogystal â chyfleoedd i’r diwydiant pysgodfeydd,” meddai Lesley Griffiths.

“Fel Llywodraeth, byddwn yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i helpu’r diwydiant baratoi i wynebu’r heriau hyn a’i helpu i addasu ar gyfer byd ar ôl Brexit.”