Mae awdurdodau wedi cadarnhau pum achos arall o E.coli yng ngogledd Cymru.

Hyd yma mae wyth achos wedi’u cadarnhau, ac yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r wyth claf yn “gwella”. Mae pob achos yn gysylltiedig, medden nhw.

Daw’r holl achosion yn sgil “achos teuluol” yn Sir Conwy, a does dim un achos newydd o’r haint wedi’i gofnodi ers Mehefin 15.

Mae plant a staff – oedd dan amheuaeth o fod â’r haint, ond sydd bellach wedi cael gwybod eu bod yn iach – wedi medru dychwelyd i ddwy feithrinfa.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Conwy yn parhau i ymchwilio, gan obeithio dod o hyd i darddiad yr achosion.

Cyngor

“Haint ddifrifol iawn yw E.coli O157, sydd yn achosi dolur rhydd difrifol – gwaedlyd ar adegau – poenau stumog, a gwres,” meddai Dr Graham Brown o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“… Dylai unrhyw un sy’n sâl gyda dolur rhydd a chyfog, aros i fwrdd o ysgolion, meithrinfeydd, neu weithleoedd, tra bod gyda nhw’r symptomau.”