Mae teyrngedau yn cael eu rhoi i “ddyn meddylgar a chariadus” a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Dolgellau dros y penwythnos.

Bu farw Ryan John Craddock, 18, yn y fan a’r lle pan darodd car a lori yn erbyn ei gilydd, ar ffordd yr A470 ddydd Sul (Gorffennaf 1).

Cafodd gwasanaethau brys ei galw am 5.15 yr hwyr, a chafodd dau o deithwyr y car eu cludo i i’r ysbyty yn Stoke. Mae’r pâr yn parhau i fod yno ag anafiadau difrifol.

Roedd Ryan John Craddock yn hanu o ardal Cannock yn Stafford, Lloegr.

“Colled aruthrol”

“Mae colled ein mab wedi torri ein calonnau,” meddai rhieni’r llanc. “Roedd Ryan yn fab, brawd, ewythr ac ŵyr; hapus, caredig, meddylgar a chariadus.”

“… Hoffwn ddiolch yr unigolion a wnaeth stopio yn y fan a’r lle er mwyn helpu Ryan a’i ffrindiau. Byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr … Dyma golled aruthrol.”

Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i apelio am wybodaeth, a dylai unrhyw dystion gysylltu â nhw.