Roedd dau aelod o dîm achub yng Nghymru ymhlith y deifwyr a ddaeth o hyd i grŵp o fechgyn a’u hyfforddwr pêl-droed mewn ogof yng Ngwlad Thai.

Fe ymunodd Rick Stanton a John Volanthen â’r ymdrech i ddarganfod y dwsin o fechgyn a’u hyfforddwr ar ôl iddyn nhw fynd ar goll mewn ogof yn nhalaith Chiang Rai ar Fehefin 23.

Mae’r ddau ddeifiwr yn cael eu cyfri’ ymhlith deifwyr gorau’r byd, ac fe gawson nhw eu galw pan wnaeth yr awdurdodau yng Ngwlad Thai apêl am gymorth.

Mae Rick Stanton yn ymladdwr tân o Coventry, tra bo John Volanthen wedyn yn arbenigwr mewn Technoleg Gwybodaeth o Fryste.

Mae’r ddau’n aelodau o Dîm Achub Ogof De a Chanolbarth Cymru, a dros y blynyddoedd maen nhw wedi bod yn gyfrifol am achub nifer o bobol sy’n sownd mewn ogofau.

Bechgyn mewn “cyflwr sefydlog”

Mae’r dwsin o fechgyn a’u hyfforddwr yn parhau i fod yn sownd yn yr ogof yng Ngwlad Thai, gyda’r awdurdodau wedi cadarnhau eu bod mewn “cyflwr sefydlog”.

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd modd eu cludo nhw oddi yno, wrth i’r twneli sy’n cysylltu’r ogof â’r arwyneb lenwi â dŵr.

Mae bwyd a meddyginiaethau yn cael eu cludo iddyn nhw gan ddeifwyr proffesiynol, ac mae’r gwaith o’u hachub barhau.