Mae cyfnod ymgynghori yn dechrau heddiw ynglŷn â hawl Llywodraeth Cymru i atal rhoi trwyddedau newydd ar gyfer codi petrolewm yng Nghymru.

O ddechrau mis Hydref eleni, ym meddiant Llywodraeth Cymru, yn hytrach na’r UK Oil and Gas Authority, fydd yr hawl i roi trwyddedau i gwmnïau ar gyfer codi petrolewm o’r ddaear.

Mae’r ymgynghoriad yn seiliedig ar adroddiad a gafodd ei gyhoeddi y llynedd, sy’n nodi polisi Llywodraeth Cymru ynglŷn ag echdynnu petrolewm, gan gynnwys yr arfer o ffracio.

“Cam bach ond pwysig”

Yn ôl yr Ysgrifennydd dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, mi fydd atal trwyddedau i gwmnïau yn gam “bach ond pwysig” tuag at ddyfodol di-garbon.

“Ein nod yw rheoli’n hadnoddau naturiol yn gynaliadwy mewn ffordd sy’n bodloni anghenion Cymru heddiw, heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ateb eu hanghenion hwy,” meddai.

“I gyrraedd ein targedau o ran newid yn yr hinsawdd, ein nod hirdymor yw dileu tanwyddau ffosil o’r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio heb gael effaith niweidiol ar yr economi.

“Byddwn hefyd yn rhoi eglurder i fuddsoddwyr a’u hannog i fuddsoddi mewn ynni amgen carbon isel.”