Roedd y Tywysog Charles yn bresennol mewn seremoni heddiw i ailenwi un o bontydd Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’.

Bu ffrae fawr yn ystod y misoedd diwetha’ yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Prydain y byddai’r ail bont dros afon Hafren yn cael ei hailenwi ar ôl mab hynaf y Frenhines.

Mae’r penderfyniad wedi derbyn tipyn o feirniadaeth, gyda dros 38,000 o bobol erbyn hyn wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu’r penderfyniad.

Ond ar ddiwrnod cynta’ taith flynyddol y Tywysog Charles i Gymru, mae seremoni wedi cael ei chynnal i ailenwi’r bont.

Wrth groesawu’r tywysog a gwesteion eraill yn y digwyddiad, mi ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ei bod yn “bleser gweld cymaint o bobl o ddwy ochr yr aber, o ddwy wlad falch, gan greu cymuned agosach.”

Roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, hefyd yn bresennol.