Mae dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar draffordd yr M4 ger Penllergaer yn oriau man bore dydd Llun.

Cafodd gyrrwr yr ail gar ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe gydag anafiadau difrifol ond nid rhai sy’n peryglu ei fywyd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger cyffordd 47 tua 1.20yb ddydd Llun, 2 Gorffennaf.

Bu’r ffordd i gyfeiriad y dwyrain ynghau am fwy na thair awr ond mae bellach wedi ail-agor. Mae’r ffordd i gyfeiriad y gorllewin yn parhau ynghau ar hyn o bryd wrth i Heddlu’r De ymchwilio i’r ddamwain ond mae disgwyl iddi ail-agor yn fuan.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r ddau gerbyd yn cael eu gyrru cyn y digwyddiad gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod *242267.