Mae elusen sy’n cynrychioli cleifion canser, wedi codi pryderon am niferoedd staff arbenigol yng Nghymru.

Yn ôl y cyfrifiad diweddaraf – pedair blynedd yn ôl – mae 74% o nyrsys sy’n arbenigo ym maes cancr y fron, yn 50 oed neu’n hŷn.

Ac yn ôl Cymorth Canser Macmillan, mae hyn yn golygu y gallai bron i dri chwarter o’r gweithlu arbenigol yma, ymddiswyddo dros y degawd nesa’.

Yn ogystal, mae nifer y swyddi gweigion yn y maes ar gynnydd – roedd 4.4 swydd wag, am bob 100 person cyflogedig yn 2014.

Pryder Cymorth Canser Macmillan yw y gallai’r ddwy ffactor arwain at ddiffyg staff o fewn rhai blynyddoedd.

“Tynnu sylw”           

“Mae ein cyfrifiad yn tynnu sylw at sawl maes sy’n codi pryder,” meddai pennaeth gwasanaethau Macmillan yng Nghymru, Richard Pugh.

“… Rydym am weld Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd a [chanolfan trin cancr arbenigol] Felindre, ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yn dadansoddi canlyniadau’r cyfrifiad.

“Ac mi ddylen nhw ystyried y canlyniadau yma wrth lunio’u cynlluniau. Rhaid mynd ati ar frys i ddelio â’r heriau yma.”