Mae dynes wedi marw ar ôl disgyn o do maes parcio yn Abertawe.
Cafodd Heddlu’r De eu galw i faes parcio’r Strand tua 3.20yp ddydd Sul, 1 Gorffennaf.
Bu’r maes parcio ynghau am beth amser ond mae bellach wedi ail-agor.
Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.