Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i ddyn 18 oed gael ei ladd mewn gwrthdrawiad rhwng car a lori ger Dolgellau ddoe.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle a chafodd dau o deithwyr yn y car eu cludo mewn hofrennydd i’r ysbyty. Maen nhw’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Seat Ibiza du a lori ar ffordd yr A470 ger Dolgellau tua 5.15 bnawn dydd Sul, 1 Gorffennaf.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n apelio am dystion i’r digwyddiad neu a welodd y cerbydau’n cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod W089538.