Wrth ymweld â Llandudno ar gyfer dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog, dywedodd y Prif Weinidog Theresa May y bydd Prydain yn parhau yn ‘rym milwrol blaenllaw’.

Ar yr un pryd, roedd hi’n osgoi ateb cwestiynau am bwysau’r Ysgrifennydd Amddiffyn Gavin Williamson i gynyddu’r gyllideb amddiffyn, gan ddweud mai gan Brydain y mae’r gyllideb amddiffyn fwyaf yn Ewrop.

Pan ofynnwyd iddi a oedd yn cytuno â sylwadau’r actor Danny Dyer am Brexit, a oedd wedi disgrifio’r cyn brif weinidog David Cameron fel ‘twat’ ar y teledu nos Iau, atebodd:

“Mae Brexit yn golygu y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Llywodraeth eisiau sicrhau ein bod yn cael cytundeb Brexit da gyda’r Undeb Ewropeaidd a’n bod ni’n gallu cael Brexit llyfn a threfnus.”

Roedd miloedd o bobl ar y promenâd yn Llandudno yn gwylio’r gorymdeithiau milwrol yng nghanol môr o gonffeti glas, coch a gwyn.

Roedd ychydig o brotestwyr yno’n ogystal gyda baneri’n galw am heddwch a chyfiawnder ac am wario ar y gwasanaeth iechyd yn lle ar fomiau.