Mae ofnau y bydd ardal eang yng ngogledd Powys yn colli ei chyflenwad dŵr o fewn y diwrnod neu ddau nesaf oherwydd y sychder.

Daw hyn yn sgil pryderon fod ffynhonnell cyflenwad yr ardal sy’n cynnwys tref Llanfyllin a’r cylch, sef cronfa ddŵr Pant, dros y ffin yn Sir Amwythig, ar fin mynd yn sych.

Gyda phryderon cynyddol am ddiogelwch yr henoed a phobl fregus yn y cylch, mae adroddiadau fod cwmni dŵr Hafren Trent wrthi’n paratoi cynlluniau wrth gefn i rannu poteli dŵr o ddeg o leoliadau.

Mae’r ardal, sy’n un o’r ychydig fannau yng Nghymru sy’n dibynnu ar Loegr am ei dŵr, yn ymestyn cyn belled â Rhos-y-gwalia ger y Bala.