Mae llefarydd ar ran y Llywodraeth wedi cadarnhau wrth Golwg360 fod swyddogion yn ymwybodol o alwad Bwrdd yr Iaith Gymraeg i’r Llywodraeth ymyrryd er mwyn sicrhau bod gorsafoedd radio masnachol yn darlledu yn y Gymraeg.

“Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cyfeirio Cynllun Iaith Gymraeg arfaethedig Ofcom i Weinidogion Cymru o dan adran 14 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae’r Gweinidog dros Sgiliau ac Addysg a’i swyddogion yn ymwybodol o’r mater, ac mae’r mater yn cael ei ystyried,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg360.

Ddoe, fe ddywedodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg bod “angen ymyrraeth y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod gorsafoedd radio masnachol yn darlledu yn Gymraeg”.

Fe ddywedodd Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones fod “agwedd cwmni Town and Country Broadcasting yng Ngheredigion yn brawf na allem ddibynnu ar ewyllys da cwmnïau yn y maes hwn.”

Eisoes, mae Ofcom wedi cyhoeddi na fydd perchnogion gorsaf Radio Ceredigion yn gofyn am gael adnewyddu eu trwydded yn otomatig. Fe fydd y drwydded ar gyfer radio yng Ngheredigion yn cael ei hysbysebu’n agored ymhen y mis.

‘Gosod yr agenda ieithyddol’

Mae’r gystadleuaeth yn digwydd oherwydd bod perchnogion Radio Ceredigion, Town and Country, yn anfodlon ar amodau’r drwydded bresennol, sy’n dweud bod rhaid i 50% o’r sgwrsio ac 20% o’r gerddoriaeth fod yn Gymraeg.

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dadlau mai’r “unig ffordd o sicrhau fod gorsafoedd radio masnachol yn darlledu cynnwys sy’n adlewyrchu sefyllfa ieithyddol gwahanol ardaloedd yw trwy osod hyn yn faen prawf wrth drwyddedu”.

“…Ers sefydlu’r Llywodraeth newydd mae’r portffolio iaith a darlledu wedi eu gwahanu. Rwy’n galw yn gyhoeddus ar y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg, Leighton Andrews, i drafod y mater gyda’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Huw Lewis, a hynny ar fyrder er mwyn i bobl Cymru gael clywed rhaglenni radio yn yr iaith y maent yn arfer ei defnyddio bob dydd,” meddai Meirion Prys Jones.