Mae gobaith y bydd uno dau gwmni dur yn arwain at ddiogelu swyddi a mwy o fuddsoddi yng ngwaith dur Port Talbot.

Mae Llywodraeth Cymru a’r undebau wedi croesawu’r uniad rhwng y ddau gwmni anferthol Tata a Thyssenkrupp.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, “Mae  Tata Steel a Thyssenkrupp yn arwyddo cytundeb pendant i greu cyd-fenter 50-50 i gyfuno eu busnesau dur Ewropeaidd. Rydym yn croesawu’r ymrwymiadau gwell i swyddi tan 2026.
 
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n ddiflino dros y ddwy flynedd ddiwethaf i achub ein diwydiant dur. Mae tipyn o ffordd i fynd eto  i roi dyfodol cynaliadwy i’n diwydiant dur – gan gynnwys Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn camu ymlaen  i gefnogi’r sector, yn enwedig gyda chostau ynni.
 
“Byddwn yn parhau i drafod â’r cwmni a’r Undebau i ddeall manylion cyhoeddiad heddiw yn llawn a sut y bydd yn effeithio ar sicrhau cynaliadwyedd hirdymor i wneud dur integredig yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo’n gadarn i sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn ganolfan gweithgynhyrchu dur o’r radd flaenaf.”
 
Yr un oedd neges Roy Rickhuss, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Community:

“Mae gweithwyr dur wedi gweithio’n galu i sicrhau dyfodol cynhyrchu dur ym Mhrydain,” meddai.

“Rydym wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol yn holl busnes Tata Steel Prydain, gan gynnwys atgyweirio ffwrnais rhif pump Port Talbot, a all olygu cynhyrchu dur tan o leiaf 2026.

“Mae gan y fenter hon ar y cyd y potensial i ddiogelu swyddi a chynhyrchu dur am genhedlaeth.”

Meddai cadeirydd Tata Steel, Natarajan Chandrasekaran: “Bydd y fenter hon ar y cyd yn creu cwmni dur pan-Ewropeaidd sy’n gryf ac yn gystadleuol.

“Mae hon yn garreg filltir bwysig i Tata Steel ac mae gennym ymrwymiad llawn i ddyfodol hirdymor y cwmni ar y cyd.”