Fe fydd y Prif Weinidog Theresa May ymhlith y degau o filoedd o ymwelwyr sy’n dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Llandudno heddiw.

Fe fydd milwyr, eu teuluoedd a chyn-filwyr yn gorymdeithio drwy’r dref, gyda sioeau awyr gan y Red Arrows a’r Typhoons.

Dyma’r degfed digwyddiad o’r fath, sy’n cael ei gynnal yn rhywle gwahanol bob blwyddyn, ac fe fydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi mai yng Nghaersallog – Salisbury – y bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog y flwyddyn nesaf.