Mae cwynion wedi codi unwaith eto dros ddiffyg siaradwyr Cymraeg tu ôl bar Canolfan Iaith yr Hen Lyfrgell.

Mae sawl ffynhonnell oedd yn y digwyddiad i godi arian at Brifwyl y brifddinas nos Fercher [27 Mehefin] wedi cadarnhau wrth golwg360 nad oedd yr un aelod o staff yno yn gallu siarad Cymraeg.

Yn ôl cadeirydd elusen yr Hen Lyfrgell, Huw Onllwyn Jones, a fu hefyd yn Bennaeth Uned y Gymraeg Llywodraeth Cymru, mae’r caffi yng nghanolfan y Gymraeg yn “gwaethygu” o ran defnyddio’r iaith.

Dywed fod mwy a mwy o arwyddion uniaith Saesneg yn y caffi, sy’n cael ei redeg gan gwmni Llaeth a Siwgr, gan gynnwys bwydlen anferth wrth y fynedfa, sy’n “uniaith Saesneg”.

“Ro’n i yn y dref diwrnod neu ddau cyn y noson a ro’n i wedi sylwi tu allan i’r Hen Lyfrgell bod yna arwydd bach, ac roedd o’n Saesneg ar y ddwy ochr,” meddai wrth golwg360.

“Ac wedyn edrych mewn trwy’r drws, gweld massive copi o’r fwydlen wrth y grisiau yn uniaith Saesneg. Mae defnydd y Gymraeg o Llaeth a Siwgr fel ei fod yn gwaethygu.

“Yn anaml nawr mae yna nosweithiau Cymraeg yn yr Hen Lyfrgell, roeddwn yn edrych ymlaen at noson godi arian i’r Eisteddfod, mynd at y bar a oedd y boi methu siarad Cymraeg, na’r ferch, na ryw foi arall ac yn y blaen.

So dyma fi’n tecstio perchennog Llaeth a Siwgwr yn dweud bod y caffi yn llawn arwyddion a phosteri uniaith Saesneg a bod y staff ar y noson lle oeddwn i’n codi arian i’r Eisteddfod methu siarad Cymraeg a bod hyn yn annerbyniol.

“Wedyn dyma fe’n dweud, “It’s ridiculous that people are more concerned with bilingualism than with a building with no lift access.

“Ni gyd yn anhapus efo’r ffaith bod y lifft yn yr adeilad ddim yn gweithio, mae’n gwneud e’n anodd os nad yn amhosib i bobol efo anabledd neu sy’n gwthio pram i fynd lan i’r caffi ond mae dweud “its ridiculous that people are more concerned with bilingualism” yn annerbyniol.

Codi cwestiynau dros arian Llywodraeth Cymru

Mae Huw Onllwyn, sy’n dweud nad oes gan elusen yr Hen Lyfrgell unrhyw ddweud dros y ffordd mae’r ganolfan yn rhedeg, hefyd yn codi cwestiynau dros y £400,000 roddwyd o arian Llywodraeth Cymru i agor y ganolfan Gymraeg.

“… Does dim fel petai ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb os ydyn nhw’n cael gwerth eu harian,” meddai.

“… Os oeddwn i’n Weinidog yn y Llywodraeth, buaswn i eisiau gwybod ydy e actually nawr yn gweithio fel Canolfan Iaith?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rhoddwyd grant cyfalaf o £400,000 i Gyngor Dinas Caerdydd i sefydlu’r Ganolfan Gymraeg yn yr Hen Lyfrgell a pharatoi cynllun busnes ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd y ganolfan i’r dyfodol.

“Cyflawnwyd amcanion y grant hynny yn 2015. Rhoddwyd £20,000 ychwanegol ar gyfer paratoi cynllun busnes newydd yn 2016-17. Mater i Gyngor Dinas Caerdydd a’i bartneriaid yw gwireddu amcanion y grant.”

Doedd neb ar gael i ymateb ar ran Menter Caerdydd.