Mae cwmni o Abertawe wedi cael gorchymyn i beidio â gwneud rhagor o alwadau ffôn sy’n niwsans.

Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi anfon rhybudd at gwmni Horizon Windows Limited, yn dweud wrthyn nhw i roi’r gorau i’w “gweithgareddau marchnata anghyfreithlon”.

Fe wnaeth swyddfa’r Comisiynydd [ICO] ganfod bod y busnes wedi gwneud 104 o alwadau marchnata digroeso, a’r rheiny i bobol oedd ar gofrestr i beidio derbyn galwadau gan gwmnïau yn ceisio marchnata neu werthu.

Roedd y galwadau hyn wedi cael eu gwneud dros gyfnod o flwyddyn, rhwng mis Ionawr 2016 ac Ionawr 2017.

Cafodd cwmni arall, Our Vault Limited o Swydd Gaerhirfryn yn Lloegr rybudd gan y swyddfa hefyd, yn ogystal â dirwy o £70,000 am wneud 55,534 o alwadau i bobol ar yr un rhestr.

Roedden nhw wedi cysylltu ag un dyn 19 o weithiau, er ei fod wedi dweud nad oedd diddordeb ganddo.

“Diffyg parch at breifatrwydd”

“Mae’r ddwy ffyrm hyn wedi dangos diffyg parch at y gyfraith ac at breifatrwydd pobl,” meddai Pennaeth Gorfodi’r ICO, Steve Eckersley.

“Gwnaeth Our Vault Ltd fwy na 55,500 o alwadau marchnata uniongyrchol i bobl a oedd wedi’i gwneud yn glir nad oedden nhw am gael galwadau. Mae hyn yn annerbyniol ac mae’n erbyn y gyfraith hefyd.

“Mae Horizon Windows Ltd wedi cael gorchymyn i roi’r gorau i’w gweithgareddau marchnata anghyfreithlon.

“Rydyn ni’n dal i dargedu’r cwmnïau a’r unigolion sy’n gyfrifol a’u dwyn i gyfrif, ond allwn ni ddim torri crib y sefydliadau hyn heb gymorth y cyhoedd.

“Hoffwn annog unrhyw un sydd wedi’i dargedu gan alwadau, negeseuon e-bost neu negeseuon testun niwsans, i roi gwybod amdanyn nhw i’r ICO.”