Mae’r Aelod Cynulliad, Huw Irranca-Davies, wedi taflu ei het i’r cylch, yn y gystadleuaeth am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.

Mae Prif Weinidog, Carwyn Jones, eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn camu o’r neilltu yn yr hydref, a hyd yma mae tri wedi datgan eu hawydd i’w olynu.

Ond yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yw’r unig geffyl yn y ras ar hyn o bryd, gan mai ef yw’r unig Aelod Cynulliad â nifer digonol o enwebiadau o’i blaid.

Tra bod yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, a Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi datgan eu hawydd yn gyhoeddus, ac wrthi’n ceisio ennill enwebiadau, does ganddyn nhw hyd yma ddim cefnogaeth gyhoeddus pump Aelod Cynulliad.

Wrth lansio ei ymgyrch yn ddiweddarach heddiw, mae disgwyl i Huw Irranca-Davies alw am “frwydr tros syniadau newydd sylfaenol i Gymru” a rhybuddio rhag “coroni” olynydd heb gystadleuaeth.

Gweledigaeth

“Byddaf yn ceisio cysylltu ag aelodau ym mhob rhan o Gymru, i lefydd lle mae Llafur wedi cael trafferth ennyn sylw,” bydd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol  yn dweud yn ddiweddarach.

“Byddaf yn eu gwahodd i rhannu eu syniadau, a byddaf yn rhannu fy syniadau innau â nhw.

“Ond, fe fydda’ i hefyd yn ceisio cysylltu â phobol y tu hwnt i’r Blaid Lafur. Pobol sy’n rhannu’n daliadau [cymdeithasol] blaengar.

“Oherwydd, mae’n rhaid i ni fod yn blaid sy’n agored i’r syniadau gorau, lle bynnag y maen nhw.”