Mae sawl sefydliad Cymreig wedi  cael eu beirniadu ar y cyfryngau cymdeithasol am gefnogi tîm pêl-droed Lloegr.

Mae baner Lloegr yn chwifio uwchben Tŷ Gwydyr, pencadlys Swyddfa Cymru yn Llundain, ynghyd â dwy faner Jac yr Undeb – a dim un ddraig goch.

Ac mae Stadiwm y Principality – Stadwm y Mileniwm gynt – wedi ennyn beirniadaeth am annog defnyddwyr Twitter i awgrymu’r tîm pêl-droed Lloegr ‘delfrydol’.

Daw hyn oll ar ddiwrnod gêm rhwng Lloegr a gwlad Belg yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn Rwsia.

Ar wefan Twitter mae pobol wedi cyfleu eu siom, gyda rhai yn galw sefyllfa’r faner yn “warth” , ac un cyfrif yn galw neges Stadiwm y Principality yn “embaras”.

Y Taoiseach

Yn wahanol iawn i’r sefydliadau yma, mae Taoiseach Gweriniaeth Iwerddon, Leo Varadkar, wedi dweud mai Gwlad Belg y bydd ef yn ei gefnogi.

Mae’r ffigwr ym Mrwsel ar hyn o bryd, yn cymryd rhan mewn cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd, ac yn dweud mai dyna yw’r rheswm tu ôl ei ddewis.